Llanwrtyd
Mapiau Fictoriaidd
  Pentref "Pontrhydyfferau" tua 1845  
 

Roedd y tirfesurwyr oedd wedi gwneud y map degwm o blwyf Llanwrtyd wedi cynnwys y manylyn bach hwn am y pentref ei hunan. Er fod pobl yn dod yma ar y pryd i gymryd y dyfroedd, roedd cyfrifiad 1841 wedi cofnodi mai dim ond 27 o bobl oedd yn byw yn y pentref.

 

MAPIAU’R DEGWM
Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bawb bron dalu degwm i Eglwys Loegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm i fod yn dreth ar eich eiddo. Lluniwyd mapiau i ddangos pa eiddo oedd gan bawb
Archifdy Sir Powys
 

Yn 1841, ymysg y trigolion roedd David Protheroe, oedd yn berchen ar y Dafarn Newydd, a Rees Price oedd piau’r gof gyda’i fab Thomas.
Roedd tri o lowyr yn byw yn y pentref. Roedd dau ohonynt yn dal i gloddio yn 70 oed!

 
  Cymharwch hwn gyda map o’r ardal yn 1887..  
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Llanwrtyd

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llanwrtyd