Llanfyllin
Llyn Efyrnwy
  Pobl oes Fictoria yn gwneud eu marc  
 

Mae mwy o luniau o’r gwaith adeiladu a wnaed gan beirianwyr oes Fictoria yn nyffryn Efyrnwy yn yr 1880’au ar y dudalen yma.
Mae’r ffotograff a welwch chi yma a dynnwyd yn 1948 yn dangos Llyn Efyrnwy o gyfeiriad is na’r gronfa. Gallwch weld y ddau dwr isel sy’n dal yr offer falf sy’n rheoli llif y dwr sy’n cael ei gadw i mewn i’r afon sydd is i lawr na’r gronfa.
Gallwch weld twr Efyrnwy, neu’r Twr hidlo, ger glan llaw dde’r llyn, a gallwch hefyd weld y bont sy’n cysylltu. Mae’r olygfa hon hefyd yn dangos pam y dewiswyd y dyffryn yma gan beirianwyr, oherwydd roedd ochrau serth y dyffryn yn ddelfrydol i ddal dwr.

 
Llyn Efrnwy
tua 1948
Lake Vyrnwy New Llanwddyn church
 

Fel rhan o’r gwaith oedd i’w wneud yn y dyffryn roedd hefyd rhaid adeiladu pentref newydd ar gyfer y bobl wnaeth golli ei hen gymuned o dan ddwr y llyn newydd. Gallwch weld Eglwys newydd Llanwddyn sef Saint Wddyn yma ar y dde.

 
 

Mae’r engrafiad ar y dde yn dangos y ffordd ar ben y gronfa ychydig wedi i’r gwaith ar y strwythur gael ei orffen yn 1889. Mae hefyd yn dangos yn glir iawn y tyrrau falf y gallwch eu gweld yn y ffotograff sydd yma, a gwaith maen hardd gan seiri maen medrus oes Fictoria.
Yn ogystal â’r ffordd ar ben y gronfa, adeiladwyd ffordd 12 milltir o hyd o amgylch y llyn.

Road across the dam
 

Roedd peirianwyr oes Fictoria yn fedrus iawn yn y gwaith o adeiladu ffyrdd, camlesi, rheilffyrdd, a phob math o adeiladau. Mae’r cronfeydd a’r traphontydd rhyfeddol ym Mhowys yn Llyn Efyrnwy ac yng Nghwm Elan yn deyrnged barhaol i’w gwaith peirianneg rhyfeddol.

Yn ôl i ddewislen Llyn Efyrnwy
.

.