Llanfyllin
Llyn Efyrnwy
  Y twr gyda phigyn  
 

Mae yna dwr urddasol gyda phigyn iddo yn codi allan o’r dyfroedd yn Llyn Efyrnwy ychydig o bellter o’r gronfa. Mae’n edrych yn debyg i gastell tylwyth teg, ac mae wedi’i gysylltu i’r glannau gyda phont fwaog.
Dyma’r 'twr hidlo', a dyma lle y mae’r dwr yn gadael y llyn ar ddechrau’r daith ar hyd y draphont a’r bibell ar y ffordd i Lerpwl, tua 70 milltir i ffwrdd. Rhoddir yr enw hidlo arno oherwydd dyma y mae’r dwr yn mynd trwyddo gyntaf a hynny trwy ridyll metel er mwyn hidlo unrhyw ddeunydd allan o’r dwr. Mae’r twr yn sefyll mewn dwr sy’n fwy na 15m (50tr) o ddyfnder ac mae fwy na 48m (160tr) o uchder, felly mae cryn dipyn o’r adeilad wedi’i guddio o dan y dwr. Gallwch weld gwaelod y twr yn y llun sydd yma.

Mae mwy am adeiladu cronfeydd yn ystod oes Fictoria ar y tudalennau ar gronfeydd
Cwm Elan.

Twr Efyrnwy
yn 1890

Gallwch weld
bwâu’r gronfa
yn y pellter

The Vyrnwy tower.
Building the tower.
Gwaelod y twr yn cael ei adeiladu

Mae’r engrafiad Fictoraidd sydd ar dde yn dangos y fynedfa i dwnnel Hirnant. Mae hwn yn mynd â dwr o Lyn Efyrnwy i’r draphont sydd yn 70 milltir o hyd i Lerpwl. Mae’r gweithiwr sy’n sefyll tu fewn yn rhoi syniad da iawn i ni o faint y twnnel.
Mae yna fwy ynglyn â sut y mae traphontydd yn cael eu hadeiladu a sut y maent yn gweithio ar y tudalennau ar gronfeydd cwm Elan, a adeiladwyd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach na chronfa Efyrnwy.

Tunnel entrance
 

Yn ôl i ddewislen Llyn Efyrnwy
.

.