Llandrindod
Mapiau Fictoriaidd
  Llanbister yn 1841  
 

Mae’r map a welwch chi yma yn seiliedig ar fap y degwm ar gyfer plwyf Llanbister ac mae’n rhoi syniad da iawn i ni o sut oedd y pentref yn edrych ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria.

Nid oedd y map gwreiddiol wedi’i unioni gyda Gogledd ar ei ben, felly mae’n rhaid i ni ei droi er mwyn ei gwneud yn haws i ni ei gymharu gyda mapiau diweddarach.

MAPIAU’R DEGWM
Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bawb bron dalu degwm i Eglwys Loegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm i fod yn dreth ar eich eiddo. Lluniwyd mapiau i ddangos pa eiddo oedd gan bawb

  1. Mae map y degwm yn dangos y tollty ar y ffordd dyrpeg i’r Drenewydd. Er mwyn mynd ag unrhyw anifeiliaid trwy’r giât byddai’n rhaid i chi dalu toll. Ar yr adeg y cafodd y map yma ei wneud roedd William Bounford yn byw yno gyda’i deulu. Roedd ef yn gweithio ar fferm leol felly ei wraig yn fwy na thebyg oedd yn casglu’r arian ac yn agor y gatiau.  
  2. Y pentref ei hunain gyda’i glwstwr o dai ar hyd y bryniau ger yr eglwys. Yn 1841 roedd yna 2 wniadwragedd yn gwneud ac yn newid dillad, 2 grydd, 1 teiliwr ac 1 saer maen. Yn ôl cofnodion y cyfrifiad roedd yna saer a’i brentis yn byw yn y pentref yn Frog Street. Francis Woosnam, 70 mlwydd oed oedd y groser.

Dirgelwch!
Mae cyfrifiad 1841 yn dweud wrthym fod 5 o filwyr yn lletya yng nghartref dynes leol. Pam oeddynt yno? Nid ydym mewn gwirionedd yn gwybod pam, ond efallai eu bod yn aros yno yn ystod y cyfnod o aflonyddwch wedi terfysg y Siartwyr yn Llanidloes. (Cliciwch yma i weld y tudalennau ar y Siartwyr)

  Cymharwch hwn gyda map o’r ardal yn 1902..  
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Llandrindod

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod