Y
Gelli a Dyffryn Gwy
Cludiant
Trafnidiaeth Fictoraidd yn Nyffryn Gwy | ||
Trwy gydol teyrnasiad y Frenhines Fictoria roedd trafnidiaeth yng nghefn gwlad yn ddibynnol ar y ceffyl. Gallai’r bobl gyfoethog deithio yn eu cerbydau eu hunain, tra gallai eraill dalu am deithio yn y goets fawr. Ni allai ond ychydig o’r bobl gyffredin fforddio hynny, felly roedd yn rhaid iddynt gerdded i bobman oedd o fewn eu cyrraedd. Roedd y dramffordd o Aberhonddu yn cysylltu ag ardaloedd gwledig Sir Henffordd, a daeth â glo rhatach i ardaloedd y ffin, a dangosodd i bobl beth allai technoleg ei gynnig. Erbyn canol teyrnasiad Fictoria, daeth y rheilffordd i’r ardal gan gysylltu’r Gelli a’r ardaloedd o gwmpas â’r byd y tu allan. O dipyn i beth daeth teithio y tu allan i’r ardal yn rhan o fywyd llawer o’r bobl gyffredin. Dewiswch o’r testunau isod. |
Trafnidiaeth
dwr
ar hyd yr afon i Loegr |
||
Gwasanaeth
cerbydau
teithio gyda cheffylau ym mhob tywydd |
||
Y
cludwyr
cludo nwyddau ar hyd yr ardal a thu hwnt |
||
Y
dramffordd i Loegr
rheilffordd gynnar yn defnyddio ceffylau |
|
||