Y
Gelli a Dyffryn Gwy
Cludiant
| Cludo nwyddau o gwmpas yr ardal | ||
|
|
||
Roedd
cludwyr fel hyn yn gweithio yn yr ardal trwy gydol cyfnod Fictoria. Hyd
yn oed ar ôl dyfodiad y rheilffyrdd, roedd angen y cludwyr i gludo nwyddau
i’r orsaf reilffordd agosaf fel y gellid eu danfon ar y trên. Byddai ffermwyr lleol neu fasnachwyr yn rhoi eu certi ar osod pan na fyddent yn eu defnyddio eu hunain. Byddai pobl dlotach yn cael benthyg cert gan berthnasau neu ffrindiau. Pan fyddent yn symud ty* byddai teuluoedd tlawd yn gallu cludo popeth oedd ganddynt mewn un gert fechan. Yn y trefi, roedd yn beth digon cyffredin i weld teuluoedd yn cario’u heiddo ar eu pennau trwy’r strydoedd i’w cartrefi newydd. |