Y
Gelli a Dyffryn Gwy
Cludiant
Gwasanaeth coetsis yng nghyfnod cynnar oes Fictoria | ||
Mae
Cyfeirlyfr Pigot i Dde Cymru, a argraffwyd
yn 1835 yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog am fywyd yn ystod oes Fictoria
yn yr ardal. (Gweler yr adran ar Ennill bywoliaeth). |
The Mae’r dyfyniad gyferbyn yn dangos coetsis a dynnwyd gan geffylau oedd yn teithio trwy’r Gelli yng nghyfnod cynnar oes Fictoria. Er bod y cerbydau hyn yn araf o’u cymharu â cherbydau modur modern, gallwch weld fod gan y bobl leol gysylltiadau trafnidiaeth da gyda Llanfair ym Muallt, Aberhonddu, Henffordd a Chaerwrangon. Mewn llawer o’r trefi yma gallai teithwyr newid coetsis a theithio hyd yn oed ymhellach. |
||
Y tâl yn fras oedd 5d (tua 2 geiniog) y filltir yn eistedd allan ar y top. Nid yw hyn yn swnio’n llawer iawn heddiw, ond roedd yn werth llawer mwy yn oes Fictoria. Golygai hyn fod teithiau pell yn costio gormod i weithwyr cyffredin oedd yn methu fforddio’r arian. | ||
Yn 1841 dechreuwyd gwasanaeth coets newydd uniongyrchol i’r Rhosan ar Wy. Roedd hwn yn goets arbennig - y Prince of Wales – yn cysylltu gydag un oedd yn cludo teithwyr i Cirencester lle gallent ddal trên i Lundain. Fel hyn, cyflymwyd y daith i’r brifddinas, ac erbyn 1849 cymerai’r daith 10 awr yn unig. | ||
Yn 1859 trefnwyd gwasanaeth dychwelyd ar hyd Dyffryn Gwy. Roedd coets Wye Side yn teithio o Henffordd i fyny’r dyffryn trwy’r Gelli, Llanfair ym Muallt a Rhaeadr-Gwy ac ymlaen i Aberystwyth. |