Y Gelli a Dyffryn Gwy
Cludiant
  Trafnidiaeth dwr  
 

Am gannoedd o flynyddoedd, defnyddiwyd afonydd mawr fel yr Afon Gwy ar gyfer trafnidiaeth am fod symud unrhyw beth trwm yn haws mewn cwch nag ar gert. Roedd Henffordd yn cysylltu â Fforest y Ddena a hyd yn oed â dinasoedd fel Bryste. Gwnaeth pobl ardal Y Gelli y gorau o’r cyfleoedd ar gyfer trafnidiaeth oedd gan yr Afon Gwy i’w gynnig.

 
  Hay in the early 19th century  
  Mae’r darn uchod o ysgythriad o’r 19fed ganrif yn dangos cychod yn cael eu tynnu i fyny ar lan yr afon wrth y bont yn Y Gelli. Fel yr ewch i fyny’r afon nid yw’r dwr mor ddwfn, ac ni all cychod mawr deithio i rannau uchaf yr afon Gwy. Y gaeaf oedd yr amser gorau i gludo defnyddiau mewn cwch gan fod y dwr yn ddyfnach yr adeg honno. Mae rhai’n meddwl fod cychod yn gallu mynd i fyny cyn belled â’r Clas-ar-wy pan fo llif yn yr afon. Gallai cychod bach fynd ymhellach na hynny hyd yn oed. Er mwyn hwylio’r cychod yn erbyn y cerrynt cryf roedd yn rhaid eu tynnu gyda rhaffau o’r lan. Roedd yn sicr o fod yn waith caled iawn.
 

Yn ôl i ddewislen cludiant Y Gelli

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli