Y
Gelli a Dyffryn Gwy
Cludiant
Y dramffordd i Loegr | ||
Ar ddechrau’r 19fed ganrif, adeiladwyd amryw o dramffyrdd yn Ne Cymru i gludo nwyddau mawr a thrwm mewn modd tipyn mwy effeithiol nag ar y ffyrdd. Roedd y rheiny’n gallu bod yn fwdlyd a thyllog mewn tywydd drwg. Roedd y tramffyrdd yn ffurf gynnar o reilffordd, ond gyda cheffylau yn tynnu trenau byr yn cynnwys tryciau bach. Agorwyd tramffordd o Aberhonddu i’r Gelli yn 1816. Yn ddiweddarach fe’i hymestynnwyd i Sir Henffordd gan gysylltu hefyd â Bersiob yn Sir Faesyfed. Golygai hyn y gellid cludo glo o Dde Cymru ac y gellid dod â chalch i mewn i’r ffermwyr. |
||
The Mae’r llun uchod yn dangos tref Y Gelli o lan gogleddol yr Afon Gwy tua 1830. Gellir gweld wagenni’n cael eu tynnu gan geffylau yng nghanol y llun ar y gorglawdd uwch yr afon. Yn ddiweddarach cafodd y darn gwastad o’r dramffordd rhwng yr afon a’r dref ei ddefnyddio ar gyfer y rheilffordd stêm a ddaeth i’r Gelli yn 1864. Mae’n siwr fod y math yma o reilffordd yn ymddangos yn gyntefig iawn o’i chymharu â’r trên stêm cyflym, ond roedd yn welliant mawr ar y drafnidiaeth ffordd a dynnwyd gan geffylau, ac yn rhan bwysig o hanes Fictoraidd cynnar yr ardal. | ||