Y Gelli a Dyffryn Gwy
Cludiant
Mwy am...
Y dramffordd i Loegr  
 

Tram oedd yr enw a roddwyd ar bob cerbyd agored a dynnwyd gan geffylau. Roedd rheolau’r dramffordd yn dweud na ddylai unrhyw dram bwyso mwy na dwy dunnell pan fyddai’n llawn o lo. Byddai tri o’r rhain yn gwneud trên a fyddai’n cael ei dynnu gan ddau geffyl a arweiniwyd gan yrrwr neu wagner. Newidiwyd y ceffylau’n rheolaidd, ac weithiau byddai’n rhaid wrth geffyl ychwanegol i dynnu’r tramiau i fyny rhiwiau serth.
Roedd mannau pasio rheolaidd ar y tramffyrdd fel y gallai un tram symud i’r ochr pan fyddai dau’n cwrdd. Fel arfer byddai trên gwag yn gwneud lle i un llawn.

 
 
 

Roedd y dramffordd yn dod i gyfeiriad Y Gelli o Dalgarth ar hyd dyffryn Gwy. Yn ymyl Llwynau Bach ger Y Clas-ar-wy roedd stablau i’r ceffylau a warws i gadw glo.
Deuai’r dramffordd i’r Gelli ar hyd y Warren gan fynd trwy’r dref ar hyd glan yr afon. Roedd lein leol fechan yn mynd i fyny rhiw i lanfa tu ôl i hen dafarn y Cock. Yma gellid llwytho a dadlwytho’r tramiau. Rhentwyd yr hen dafarn gan gwmni’r tramffordd i’w defnyddio fel swyddfeydd. Yma byddai’r clercod yn cadw cofnod o ba nwyddau a gludwyd, a faint oedd pobl wedi’i dalu i’r cwmni am eu cludo. Roedd gan y cwmni bont bwyso yn Y Gelli fel y gallent bwyso’r tramiau er mwyn gwybod yn union faint o lo neu galch oedd yn cael ei gludo.

Damwain angheuol ar y dramffordd..

 
 

Yn ôl i ddewislen cludiant Y Gelli

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli