Y Gelli a Dyffryn Gwy
Cludiant
  Damwain angheuol ar y dramffordd  
 

Byddai’r dynion oedd yn rhedeg y dramffordd yn defnyddio ceffylau i dynnu’r wagenni llawn i fyny i lefel ucha’r lanfa. Unwaith y byddai’r tramiau wedi’u dadlwytho, byddent yn gadael iddynt redeg i lawr yn eu holau i’r brif linell ar eu pennau eu hunain.
Roedd hwn yn arferiad peryglus iawn gan fod llwybrau cerdded yn yr ardal i lawr at yr afon ger yr eglwys.

 
  drawing by Rob DaiesLlun gan Rob Davies
  Ym Medi, 1843, roedd hen wraig o’r Gelli, Elizabeth Smith, yn croesi’r llinell ger yr eglwys ac yn cario bag o datws pan gafodd ei tharo’n ddirybudd gan wagenni oedd yn chwyrlïo i lawr y llethr. Fe’i lladdwyd yn y fan a’r lle, a chynhaliwyd cwest i’w marwolaeth. Yn y cwest beiodd y crwner y cwmni tramiau am beryglu bywyd pobl mewn ffordd mor anghyfrifol.
Llinell yr hen dramffordd dan Eglwys Y Gelli yn 1999
  Er gwaetha’r ddamwain drist hon, bu’r dramffordd yn rhoi gwasanaeth gwerthfawr i’r Gelli am bron i hanner can mlynedd. Daeth i ben yn 1864 pan agorwyd Rheilffordd Henffordd, Y Gelli ac Aberhonddu oedd yn gweithio gyda stêm.
Defnyddiwyd rhai o draciau Tramffordd Y Gelli ar gyfer y rheilffordd newydd, gan gynnwys yr adran yn Y Gelli.
.
 

Yn ôl i ddewislen cludiant Y Gelli

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli