Crughywel
yn oes Fictoria
  Crughywel a Dyffryn Wysg  
 

Aeth Crughywel a Dyffryn Wysg drwy nifer o newidiadau mawr yn ystod teyrnasiad y Frenhines Fictoria.

Cafodd plant gyfleoedd newydd am iddyn nhw gael addysg, er iddi fod yn anodd ei sefydlu.
Bu gwelliannau mewn cludiant yn fodd i gysylltu’r ardal â’r byd cyfnewidiol oedd y tu hwnt i Sir Frycheiniog, gan ddod â rhagolygon newydd i fasnachu ac i deithio.
Roedd datblygiad diwydiant y glofeydd a’r ffwrneisi metel a oedd ar gyrion y sir yn denu pobl o’r tir i chwilio am waith newydd.

 

Datblygodd stadau mawr crand ac aeth y bobl i weithio ar y ffermydd ac fel gweision/morynion yn y tai bonedd.

Defnyddiwch y cysylltiadau isod i ddysgu mwy am y newidiadau hyn.

 
 

Fe fyddem yn gwerthfawrogi cael adborth gan athrawon, plant ac eraill sydd â diddordeb yn ein prosiect.

Os oes gennych unrhyw sylwadau ynglyn â'r safle anfonwch ebost at Gavin Hooson:

gavin@powys.gov.uk

Diolch am eich help.

 

 
 
Yn ôl i dop
Ewch i’r ddewislen lleoedd