Brigâd Dân 1
"Daliwch y Ceffyl yn Gyntaf!"

  Y Frigâd Gwirfoddol Gyntaf
Mae tarddiad yr ymladdwyr tân lleol yn aneglur ond fe wyddir bod y frigâd gwirfoddol wedi bod yn gweithredu ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Llun drwy ganiatâd caredig Mrs Cherry Loversedge Fire brigade in 1890
 

Mae’r llun hwn yn dangos y frigâd dân oddeutu 1890, yn sefyll o flaen y Tanhouse ger yr Afon Llugwy. Credir mai dyn lleol o’r enw Joe Price (ar y chwith) oedd Capten y tîm. Caiff yr offer ei dynnu gan geffyl, ac ymddengys fel ei fod yn cael ei ddefnyddio drwy bwmpio â llaw. (Mae’r deunydd sydd wedi’i bentyrru y tu ôl i’r tîm yn debygol o fod yn risgl coeden ar gyfer y melin risgl yn y Tanhouse)

Gofynnwyd i hen swyddog tân Sir Faesyfed unwaith ynglþn â’r weithdrefn a ddefnyddiwyd unwaith y seiniwyd y rhybudd. Atebodd "First, catch the horse!" (Daliwch y Ceffyl yn gyntaf!)

Mae yna 4 tudalen ar y frigad dân. Defnyddiwch y blychau cyswllt isod i weld y tudalennau eraill.