Powys Digital History Project

Llanidloes a'r cylch
Trychineb yn Nhylwch,1899

  Trasiedi’r Orsaf
Mae cymuned fechan Tylwch yn gorwedd mewn dyffryn deniadol iawn ychydig filltiroedd i’r de o Lanidloes ar y ffordd i Raeadr. Mae’n agos iawn i’r ffin rhwng Sir Drefaldwyn a Sir Faesyfed. Er bod yr orsaf rheilffordd mewn man anghysbell roedd yn fodd pwysig i’r bobl leol fedru teithio a chludo nwyddau a hefyd roedd yn darparu cyswllt â’r prif linellau rheilffordd i’r de a’r gogledd.
Digwyddodd damwain drychinebus ar yr orsaf fach hon ar yr 16eg Medi, 1899, fel ag a welir yn yr hen ffotograff yma. Gellir gweld bwrdd ag enw gorsaf Tylwch yn gorwedd wrth y gorglawdd ychydig y tu draw i’r cerbydau drylliedig.
Ffotograff trwy
ganiatâd caredig
Cyrus Meredith
Train crash at Tylwch,1899 
  Trawodd trên post a oedd newydd ddod i mewn i’r orsaf ben ben a thrên gwibdaith a oedd wedi gadael Llanfair-ym-Muallt ar fore dydd Sadwrn, ar ei ffordd i Fanceinion. Lladdwyd merch leol dim ond 24 oed o Bantydwr yn y ddamwain, roedd newydd esgyn ar y trên gwibdaith ar yr orsaf cynt gyda’i chariad. Anafwyd pump o bobl eraill yn ddifrifol, pob un ohonynt o ardal Llanidloes.
  Awgrymodd adroddiad yn y Montgomery Express & Radnor Times bod y signalau yn erbyn y trên gwibdaith, ond fod y brêcs heb weithio ac na fyddai gyrrwr yr injan, dyn o Lanidloes, wedi medru osgoi gwrthdaro yn erbyn y trên post. Nid yw’r syndod bod yr "ofn mwyaf ymhlith y teithwyr".
  Mae 4 tudalen ar Dylwch. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.
Home page 
  Continue...