![]() |
|
||||||||||
|
|
|||||||||||
|
Y
Trallwng a'r cylch Ennill bywoliaeth |
|||||||||||
| llosgwyr calch a seiri olwynion |
|
Peidiwch
ag
anghofio! Y cyfenwau sy’n gyntaf |
Cludwyd calchfaen i’’r ardal mewn cychod ar y gamlas, ac yna fe’i llosgwyd mewn odynau calch yn ymyl y gamlas. Cynhyrchwyd calch ar ffurf powdr ohono er mwyn ei ddefnyddio i wneud sment neu i’w wasgaru ar y caeau er mwyn eu gwella. Dyma sut y byddai’r llosgwyr calch y sonnir amdanynt yma yn ennill eu bywoliaeth. Mae rhai o’r masnachau a restrir yng nghyfeirlyfr 1858 yn gyfarwydd iawn inni (cigyddion, pobyddion a seiri), ond mae rhai eraill yn fwy dieithr. Gwaith y bragwr oedd trin yr haidd (barlys) yn ei dy bragu. Defnyddiwyd y cynnyrch terfynol i fragu cwrw. Roedd Edward Davies, Ffordd Aberriw, yn gwerthu cynnyrch defnyddiol iawn ar gyfer ffermwyr lleol. Gwrtaith oedd Giwana yn cael ei wneud o faw adar wedi pydru. Cawsai ei gasglu o ynysoedd creigiog ac arfordiroedd lle’r oedd miloedd o adar y môr yn nythu. Cludwyd y giwana i’r ardal mewn sachau ar y cychod camlas. Mae’n siwr bod arogl hyfryd yn stordy Mr Davies! |
![]() |
|
Mae’r
darn olaf a dynnwyd o’r rhestr o fasnachwyr yn dangos grwp o grefftwyr
|
![]() |
| Roedd hon yn swydd grefftus iawn, ac mae’n sicr fod y gweithdai a restrir yma yn brysur iawn yn gwneud a thrwsio olwynion. |