Y Trallwng a'r cylch
Trosedd a chosb
Ac ati...
Torri-mewn ar ffordd Amwythig  
 

Yn y cyfnod hwnnw, roedd pobl yn ddrwgdybus iawn o ddieithriaid, ac mae’n rhaid fod pedwar dieithryn ar y ffordd gydag acenion od yn amlwg iawn. Aeth yr heddlu ar eu holau i’w dal a’u cwestiynu...

Trannoeth y lladrad yn nhy Mrs Davies yn Y Trallwng, cyrhaeddodd y pedwar dieithryn o ganolbarth Lloegr dy llety yn yr Amwythig. Yno arhosodd y pedwar dros nos gan ddweud eu bod am aros yno am gyfnod.
Susan Shaw a’i gwr oedd yn cadw’r ty llety. Yn ddiweddarach dywedodd Susan wrth yr awdurdodau beth oedd wedi digwydd, a chofnodwyd ei datganiad. Ni allai ddarllen nac ysgrifennu, ac felly arwyddodd y datganiad gyda’i marc...

 
Court paper  
 

Trannoeth, ar ôl brecwast, gadawodd y dieithriaid ddau fwndel o ddillad gyda Susan gan ofyn iddi edrych ar eu hôl tra roeddynt allan. Roedd hi wedi sylwi fod un o’r dynion wedi cyrraedd y ty mewn hen ddillad blêr, ond wedi mynd allan mewn côt fawr ddu grand.
Wedi iddynt fynd allan, cyrhaeddodd Y Cwnstabl Harper ac aeth â’r bwndeli oddi yno.

Roedd heddlu’r Trallwng wedi anfon neges ato ac aeth yntau ati i weithredu ar unwaith !
Gwyddai am y lleoedd lle y gallai rhywun werthu neu wystlo dillad, ac o dipyn i beth daliodd y pedwar yn Nhafarn y Bell ac fe’u harestiodd. Roedd ganddynt nifer o eitemau wedi’u dwyn yn eu meddiant, a daeth o hyd i bethau eraill mewn siop wystlo, lle roeddynt wedi’u gadael yn gynharach.
..

SIOPAU WYSTLO
Siopau lle gallai pobl dlawd fynd i fenthyca arian. Byddai’n rhaid iddynt adael rhyw eitem gyda’r gwystlwr fel gwarant. Byddent yn cael yr eitem yn ôl pe byddant yn talu’r benthyciad yn ôl gyda llog.
Gellid adnabod siopau gwystlo oddi wrth yr arwydd y tu allan i’r siop (Gweler chwith)
 

Edrychwch beth ddigwyddodd nesaf...