Y Trallwng a'r cylch
Trosedd a chosb
  Torri-mewn ar ffordd Amwythig
 

Yn ystod gaeaf 1843 torrwyd i mewn i dy ar gyrion Y Trallwng, a chafodd eiddo ei ddwyn. Llwyddwyd i ddal y lladron a’u harestio yn yr Amwythig. Cawsant eu dwyn yn ôl a’u carcharu yng ngharchar Trefaldwyn i aros cyn sefyll eu prawf. Mae’r manylion amdanynt yn y rhestr isod.

 
 
 

Fel y gwelwch, roedd y pedwar a gyhuddwyd yn dod o Ganolbarth Lloegr ac roedd yn siwr o fod yn waith eithaf hawdd i’w dal. Cyhuddwyd hwy o ddwyn oddi ar berchennog y ty, Mrs Anne Davies ac oddi ar y Parchedig MacIntosh, curad Y Trallwng, (cynorthwywr yr Offeiriad), a oedd yn lletya gyda Mrs Davies.

Daeth yr heddlu o hyd i nifer o dystion a chofnodwyd eu datganiadau. O’r wybodaeth a gawsant mae’n bosib i ni greu darlun o’r hyn a ddigwyddodd ar y noson honno o aeaf.
Roedd Mrs Davies a’r Parchedig MacIntosh wedi mynd i’r eglwys gan adael y forwyn, Mary Davies, i drin y tanau a chloi’r drysau. Dychwelodd Mary o’r eglwys o flaen y lleill er mwyn goleuo’r lampau yn y ty. Pan gyrhaeddodd y ty, gwelodd nad oedd pethau’n iawn. Roedd ffenestr wedi’i hagor trwy ddefnyddio grym.

Aeth Mary i Dafarn y Pheasant i ddweud am y lladrad. Daeth â help yn ôl gyda hi, mynd i mewn i’r ty a darganfod droriau agored a phethau ar goll...

 

Edrychwch beth ddigwyddodd nesaf...