Y Trallwng a'r cylch
Ennill bywoliaeth
  Masnachwyr Glo i fasnachwyr gwlanen  
Peidiwch ag anghofio!
Y cyfenwau
sy’n gyntaf

Byddai’r masnachwyr glo yn cludo glo i’r ardal mewn cychod ar y gamlas. Fe welwch fod dau o’r busnesau wedi’u lleoli yn iard y gamlas. Sylwch fod dau o’r masnachwyr yn gwerthu pibelli a llechi hefyd. Fel y glo, roedd y rhain yn nwyddau trymion a gludwyd i’r ardal mewn cychod camlas.

Yn Oes Fictoria doedd yna ddim plastig ac roedd gwydr braidd yn ddrud. Felly cludwyd unrhyw hylif ar raddfa fawr mewn casgenni.
Gwaith y cowper oedd gwneud casgenni o goed yn ei weithdy. Roedd hwn yn waith pwysig iawn, ac yn waith hynod o grefftus hefyd. Pan nad oedd galw am y casgenni roedd yn bosib eu datgymalu, neu eu tynnu oddi wrth ei gilydd a’u storio.

Gwaith y trinwyr lledr oedd paratoi’r crwyn a chynhyrchu lledr ohonynt. Byddai cryddion a chyfrwywyr lleol yn dibynnu ar y trinwyr crwyn am eu deunyddiau crai.

Roedd Y Trallwng yn ganolfan lewyrchus ar gyfer gwneud a gwerthu gwlanen yn y cyfnod Fictoraidd cynnar. Ond erbyn 1858 tyfodd Y Drenewydd i fod yn brif ganolfan ac roedd Y Trallwng wedi dirywio.

 

Yn ôl i ddewislen ennill bywoliaeth Y Trallwng