Y Trallwng a'r cylch
Ennill bywoliaeth
  Pobyddion i lyfrwerthwyr  
Peidiwch ag anghofio!
Y cyfenwau
sy’n gyntaf

Dyma ddarn arall o Gyfeirlyfr Slater yn 1858. Mae’n rhestru mwy o fasnachwyr oedd yn brysur yn yr ardal yr adeg honno.

Roedd galw mawr am grefft y gof yng nghyfnod Fictoria. Cyn dyddiau peiriannau trydan cymhleth byddai’r gof lleol yn gallu trwsio’r rhan fwyaf o beiriannau. Byddai’r ffermwyr yn dod â’u hoffer i’r efail i gael eu trwsio, ac yn amlach na pheidio byddai’r gof yn ffarier hefyd, a byddai’n pedoli’r ceffylau.
Gan fod miloedd o geffylau’n gweithio yng nghefn gwlad roedd y gof yn ddyn prysur iawn.

Fel y dysgai mwy a mwy o bobl sut i ddarllen, dechreuodd llyfrau fod o fewn eu cyrraedd. Serch hynny, ni welwyd llyfrau o gwbl yng nghartrefi’r bobl gyffredin, ar wahân i’r Beibl, efallai.
Gwerthu i deuluoedd pobl fusnes neu i’r boneddigion y byddai’r llyfrwerthwyr y rhan fwyaf o’r amser.

extract from 1858 directory
 

Yn ôl i ddewislen ennill bywoliaeth Y Trallwng