Talgarth a'r cylch
Cludiant
Ceffylau o dan y bryniau  
  Roedd angen llwybr mor llyfn â phosib ar Dramffordd y Gelli,llwybr ceffylau cynnar yr ardal, wrth iddi fynd trwy wlad fynyddig y Canolbarth. Roedd hyn yn golygu adeiladu pontydd, argloddiau uchel, torri i fewn i graig y bryniau, a thwnnel hyd yn oed !  

Roedd y twnnel gwreiddiol ar lwybr y dramffordd yn Nhalyllyn, rhwng Aberhonddu a Llangors. Roedd y twnnel yn 674 llath (616 medr) o hyd, ac roedd yn dipyn o bellter i’r ceffylau tynnu eu llwythau, oherwydd byddai’n dywyll iawn wrth symud i ganol y twnnel !

Leaving the tunnel
  Roedd y traciau oedd yn mynd trwy’r twnnel yn defnyddio clymfariau metel rhwng y setiau o blatiau cyfochrog. Roedd yn hanfodol wrth gwrs bod y tramiau’n dilyn y llinellau yn union wrth symud drwy’r twnnel tywyll.  
Mae’r darn hwn o fap 1887 yn dangos ochr Aberhonddu i dwnnnel Talyllyn pan roedd Rheilffordd Aberhonddu a Merthyr yn ei ddefnyddio.
Part of 1887 OS map
 

Yn ddiweddarach, aethant ati i wneud y twnnel yn fwy fel y byddai trenau stêm yn gallu ei ddefnyddio ar ôl agor y rheilffordd newydd yn 1864. Rydych yn gallu gweld llwybr yr hen dramffordd ar y chwith yng ngwaelod y map.
Ymhellach ar hyd y lein tua’r Gelli, roedd yr hen dramffordd yn croesi’r Afon Enig dros bont gerrig yn Nhalgarth.
Roedd yr hen dramffordd ar gyfer ceffylau rhwng Aberhonddu a Swydd Henffordd wedi cludo swm anferthol o nwyddau hanfodol i drefi a phentrefi bychan canolbarth Cymru am dros 40 o flynyddoedd. Roedd hyn wedi parhau hyd nes i’r rheilffordd stêm newydd ddechrau, ac roedd gan y gwasanaeth hwn ddyled mawr i’r gwaith adeiladu oedd wedi cael ei wneud ar y dramffordd wreiddiol dros 50 o flynyddoedd yn gynharach.

Yn ôl i ddewislen cludiant Talgarth

.