Talgarth
a'r cylch Roedd y dramffordd o lanfa’r gamlas
yn Aberhonddu yn mynd trwy Dalgarth
ar ei ffordd i’r Gelli. Mae’r darn
uchod o fap 1877 yn dangos llinell Rheilffordd
y Canolbarth i’r gogledd o Drefecca.
Roedd llawer o’r llinell a adeiladwyd ar gyfer y rheilffordd stêm
a agorwyd yn 1864 yn defnyddio
llwybr yr hen dramffordd. Roedd y gwahaniaethau rhwng yr hen linell
a’r llinell newydd wedi eu cofnodi ar y map hwn - cewch weld y gwahaniaethau
yma. Mae’r "Hen Dramffordd"
sy’n mynd tua’r gogledd o Aberhonddu at Dalgarth i’w gweld yn glir
ar y map uchod. Fel arfer byddai’r "tramiau" ar y
llinell yn cludo calch a charreg galch
(i’w defnyddio mewn gwrteithiau), glo,coed,
haearn, cerrig adeiladu, briciau
a llechi. Roedd y bobl oedd yn rhedeg y llinell yn codi prisiau gwahanol
am gludo nwyddau amrywiol, ac roedd man i bwyso’r
tramiau wedi’u llwytho cyn iddynt symud i ffwrdd.
Cludiant
Ceffylau
rhwng y cledrau
Fel system trac sengl y cafodd ei
hadeiladu, ac roedd mannau pasio bob hyn a hyn. Darnau drac dwbl oedd
y rhain ac roeddent yn ddigon hir i ganiatáu i ddau geffyl a nifer o wagenni
symud i’r ochr i alluogi "trên geffylau"
oedd yn dod o’r cyfeiriad arall i basio heibio.
Rhifyn 1af yr
Arolwg Ordnans
o 1877
Ar hyd y llwybr, roedd stablau lle’r oedd y dynion yn gallu newid eu ceffylau
am rai llai blinedig, a lle gallent gael ceffyl
ychwanegol i helpu wrth
dynnu llwythau trymion i fyny’r darnau mwyaf serth ar y llwybr.
Mae mwy o wybodaeth am y rheilffordd gynnar hon ar y dudalen
nesaf...