Talgarth a'r cylch
Cludiant
  Cludo glo i’r Gelli ac ymhellach  
 

Y syniad syml oedd yn golygu bod Tramffordd y Gelli yn llwyddo (ynghyd â llwybrau tebyg mewn llefydd eraill) oedd bod ceffylau yn gallu tynnu llwythau llawer trymach heb anhawster wrth eu clymu i wagenni oedd yn symud ar draciau metel llyfn, yn hytrach nag ar ffyrdd anwastad neu fwdlyd.
Gan fod yr ardal mor fynyddig, doedd hi ddim yn bosibl adeiladu’r lein heb riwiau, ond roedd y llwybr mor wastad â phosib o ystyried y tir.

Tramroad wagons

Y cledrau
haearn oedd yn
Nhramffordd
y Gelli

Track construction detail
Roedd y traciau wedi’u ffurfio o ddarnau siâp-L o haearn bwrw tua 3 troedfedd o hyd wedi’u cysylltu i flociau carreg. Roedd tua 3 troedfedd a 6 modfedd rhwng y platiau neu gledrau hyn. (‘Trwch’ yw’r enw a roddir i’r gofod yma ar reilffordd).
 
6 modfedd oedd trwch y blociau carreg, ac roedd tyllau ynddynt er mwyn eu cysylltu i’r platiau.
 
Ochrau unionsyth y platiau oedd yn cadw olwynion fflat y wagenni a welwch chi nesaf yn eu lle. Roedd cerrig bychain rhwng y cledrau yn galluogi’r ceffylau i gydio wrth dynnu’r wagenni llawn.  
Olwyn haearn
bwrw tram
Tram wheel

Haearn bwrw oedd y deunydd yn yr olwynion ar y wagenni neu’r tramiau, ac roedd patrymau gwahanol i’w cael. Roedd rhai cwmnïau oedd yn defnyddio’r lein yn cynnwys eu llythrennau cyntaf neu ryw gynllun arall wrth fwrw olwynion eu tramiau.
Ar reilffyrdd modern, esgyll unionsyth ar olwynion y trenau eu hunain sy’n cadw’r olwynion ar y traciau, yn hytrach nag ochrau unionsyth y cledrau fel ar yr hen dramffyrdd gynt.

 
 

Cafodd y darn cyntaf o’r dramffordd rhwng Aberhonddu a’r Gelli ei hadeiladu rhwng 1811 a 1816, ac roedd dros 22 milltir o hyd.
Er i’r llinell gael ei hadeiladu cyn i Fictoria ddod yn Frenhines yn 1837, roedd tipyn o ddefnydd ar y dramffordd yn ystod cyfnod Fictoria cyn i’r trenau stêm ddod yn boblogaidd yn yr 1860au.
Mae mwy o wybodaeth am y system rheilffordd seml ond effeithiol hon ar y dudalen nesaf...

Gweithio ar y dramffordd...

.