|
Ar ddechrau’r cyfnod, heddweision
y plwyf oedd yn cadw’r heddwch yn yr ardal yn bennaf. Doedd
y dynion hyn ddim yn derbyn unrhyw dâl, a doedden nhw heb dderbyn hyfforddiant
ychwaith. Roedd yn rhaid iddynt gyflawni eu dyletswyddau fel plismyn yn
ogystal â gwneud eu swyddi arferol, felly gallwch ddychmygu nad oedd llawer
o bobl am fod yn blismyn.
Roedd yn rhaid iddyn nhw weithio am un flwyddyn
heb dderbyn tâl, ac yn aml, doedd y llysoedd ddim yn gadael
iddynt orffen eu dyletswyddau nes eu bod yn cael hyd i rywun arall i fod
yn gyfrifol am wneud y dyletswyddau hyn.
Ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria, pasiwyd Deddf gan y Llywodraeth
oedd yn caniatáu i siroedd megis sir Frycheiniog sefydlu Heddlu’r Sir.
Aeth Sir Drefaldwyn ati i sefydlu Heddlu yn fuan ar ôl hynny (gweler
y tudalennau ar ddyddiadur y Cwnstabl Jones)
ond ni wnaeth Sir Frycheiniog. Yn lle hynny, gwnaeth y Sir apwyntio nifer
o Gwnstabliaid Arolygol i edrych ar
ôl cwnstabliaid lleol y plwyf a’u cefnogi nhw.
Yn ystod Hydref 1850 rhoddodd yr ynadon
orchymyn i sicrhau bod y Cwnstabliaid Arolygol hyn yn cael gwisg go iawn.
Mae’r llun (ar y dde) yn dangos sut roedden
nhw’n edrych efallai.
|
|