Talgarth a'r cylch
Ennill bywoliaeth
  Cyfeirlyfr Kelly, 1895 : Llangors  
 

Dyma fanylion cymuned Llangors. Ar ben y rhestr y mae’r clerigwyr a’r bonedd (pobl ag incwm annibynnol nad oedd yn gorfod gweithio i ennill bywoliaeth).
Ar ôl hynny, mae ffermwyr a dynion a menywod â chrefft yn y gymuned.

Doedd cyhoeddwyr y cyfeirlyfr ddim wedi arfer ag enwau Cymraeg, felly mae nifer o sillafiadau anarferol ar adegau! Ydych chi’n gallu adnabod rhai ohonynt ?
Peidiwch ag anghofio!
Y cyfenwau
sy’n gyntaf
entry from trade directory

Sylwch yma, y mae arwyddion yma o’r diwydiant twristiaeth oedd yn tyfu.

Mae gan Robert Jones a Thomas Jones ystafelloedd i’w gosod i ymwelwyr.

Roedd agor y rheilffordd wedi gwneud teithio o drefi a dinasoedd i’r ardal hardd hon yn Sir Frycheiniog gymaint yn haws i bobl.

 
 

Mae mwy o fanylion Llangors ar y dudalen nesaf...