Talgarth a'r cylch
Ennill bywoliaeth
  Cyfeirlyfr Kelly, 1895 : Talgarth - 6  
 

Dyma’r darn olaf ar gyfer cymuned Talgarth.
Yn ogystal â’r tafarndai a gwestai yn Nhalgarth gallwn weld math newydd o lety yn cael ei gynnig.
Mae gan Mrs Williams o West View a Mrs Williams o Neuaddfelen ystafelloedd ar gyfer ymwelwyr. Roedd teithio ar y rheilffordd i gael gwyliau yn nghanol golygfeydd y Mynydd Du yn cynyddu mewn poblogrwydd.

Doedd cyhoeddwyr y cyfeirlyfr ddim wedi arfer ag enwau Cymraeg, felly mae nifer o sillafiadau anarferol ar adegau! Ydych chi’n gallu adnabod rhai ohonynt ?
Peidiwch ag anghofio!
Y cyfenwau
sy’n gyntaf

Gallwn hefyd weld dau o’r cryddion oedd mor brysur yng nghefn gwlad oes Fictoria.

Roedd y rhan fwyaf o bobl yn cael eu hesgidiau cerdded ac esgidiau eraill oddi wrth gryddion lleol megis Moses a William Williams.

 
 

Yn ôl i ddewislen ennill bywoliaeth