Talgarth
a'r cylch Yn ystod gaeaf 1853,
roedd tri o garcharorion yn aros i fynd o flaen y llys yng ngharchar Aberhonddu.
Eu henwau oedd William Warner,
John Sheen ac Alexander
Huel ac roedden nhw wedi lladrata o Langors. Roedd John Sheen
yn droseddwr parhaus, ac roedd ef wedi bod yn y carchar ddwywaith o dan
enwau gwahanol. Mae’n rhaid eu bod yn sylweddoli
eu bod yn wynebu dedfryd o alltudiaeth
i Awstralia os y byddent yn eu cael yn euog, ac roeddent yn ysu i ddianc.
I ddechrau, torrodd Alexander Huel bar haearn o waelod y stôf a cheisiodd
dorri mewn i’r garthffos, a dianc y ffordd yna. Ond sylwodd rhywun ar
y baw ar ei ddillad carchar ar ôl y tyllu, ac roedd yn rhaid iddo wisgo
cadwyn haearn ar ei goes.
Trosedd a chosb
Tri
o garcharorion gwylltion
Wedyn, cafodd y tri charcharor eu gyrru i’r ystafell
chwain gyda charcharor arall. (Dydyn
ni ddim yn hollol siwr beth yw ystyr hyn, ond gall fod yn ystafell arbennig
lle’r oedd carcharorion â chwain yn cael eu cadw, rhag eu lledu i garcharorion
eraill).
Y tro yma, torrodd y carcharorion bar haearn
oddi ar y grât tân i’w ddefnyddio fel arf, a’i guddio yn y simnai. Ar
ôl i rywun ddarganfod y bar, cyfaddefodd John Sheen iddo ei rhoi yno,
a chafodd ei roi yn yr heyrn.
Ym mis Mawrth 1854,
cafwyd y tri yn euog gan dderbyn dedfryd alltudiaeth
am gyfnod hir i Awstralia. Bywyd caled iawn oedd hyn, ac roedd yn anarferol
iawn i droseddwr ddod yn ôl o Awstralia. Unwaith eto, gwnaethant un ymdrech
olaf i ddianc o’r carchar, ac ar ôl hyn cawsant eu cadw mewn heyrn
dwbl nes mynd ar y llong i’w halltudio.