Y Drenewydd
Warws Cymreig Brenhinol
  Dechreuad busnes byd-eang  
 

Wedi i dair llinell reilffordd newydd agor rhwng 1859 ac 1863 roedd gan fasnachwyr gwlân ardal Y Drenewydd ffordd well o lawer o anfon eu cynnyrch allan i’w cwsmeriaid.
Ar ôl wynebu llawer o gyfnodau caled iawn yn y blynyddoedd cynnar, daeth masnach leol yn llawer mwy llewyrchus yn yr 1870au a hynny’n bennaf oherwydd un gwr busnes lleol arbennig iawn. Mewn llawer ffordd roedd yn ddyn o flaen ei amser.
Ei enw oedd Pryce Jones. Fe’i ganwyd yn Llanllwchaearn, plwyf cyfagos, yn 1834, a daeth yn brentis i fusnes dillad yn Y Drenewydd pan oedd yn 12 oed.

Pryce Jones
The Cross,
Broad Street
tua 1891
Broad Street, 1891 Roedd y Royal Cambrian House wedi’i leoli yn The Cross, y pen deheuol o Broad Street yn Y Drenewydd.
Dyma lle y dysgodd Pryce Jones ei waith fel dilledydd. Dymchwelwyd yr adeilad yn 1898, a chodwyd adeiladau’r ‘Cross’ a Thwr Cloc yn ymyl y safle.
 

Pan oedd yn ddim ond 21 oed rhedodd Pryce Jones y busnes yma ar ei ben ei hun am rai Medals won at trade showsblynyddoedd tra roedd ei gyflogwr i ffwrdd. Wedi iddo ddod yn ôl, gadawodd Pryce Jones yn 1859 i agor ei siop fach ei hun ychydig oddi ar Broad Street yn Y Drenewydd. Oddi yno y rhoddodd ei syniadau ar waith, - syniadau a fyddai’n arwain at ddechreuad bychan ond addawol y busnes archebu-trwy’r-post cyntaf yn y byd! Dechreuodd ar raddfa fach trwy anfon patrymau a rhestrau o stoc i’r uchelwyr lleol, gan drefnu i wneuthurwyr a masnachwyr gwlân lleol gynhyrchu’r nwyddau i ateb i’r archebion a gawsai. Dyma ddechrau busnes mawr, llwyddiannus iawn, fel y gwelwch ar y dudalen nesaf...

Yn gyntaf Cymru, ac yna’r byd!
Eisteddfod Fawr Genedlaethol Cymru Medalau a enillwyd yn 1865, 1866, 1867 ac 1868 fel a ddangoswyd mewn rhestr bostio.
 

O’r Drenewydd i’r byd mawr..

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Drenewydd