Y Drenewydd
yn yr oes Fictoria
  Y twr cloc yn y Cross  
 

Mae hen gerdyn post arall o un arall o brif strydoedd Y Drenewydd i’w weld isod. Mae’r olygfa hon o High Street wedi’i thynnu gan edrych i gyfeiriad Adeiladau’r Cross, sydd ar gyffordd Broad Street a High Street.
Mae’n bur debyg i’r llun hwn gael ei dynnu yn yr 1900au cynnar, yn fuan ar ôl iddynt gael eu codi. Defnyddiwyd rhan o’r safle gan Fanc Barclays, a feddiannodd y siopau ar y llawr gwaelod yn nes ymlaen.

 
Adeiladau'r Cross
Y Drenewydd
tua 1900
High Street, Newtown
 

I Sarah Brisco mae’r diolch fod yr adeilad hwn wedi’i godi. Roedd hi’n un o ddisgynyddion y teulu Pryce o Newtown Hall.
Yn 1898 dechreuwyd ar y gwaith i nodi Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines Fictoria yn 1897. Cyflwynwyd cloc y dref, y rhan mwyaf amlwg o’r adeilad newydd i bobl Y Drenewydd yn 1900.

 

Yn ôl i ddewislen lluniau o'r Drenewydd

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Drenewydd