Y Drenewydd
Warws Cymreig Brenhinol
  Gwlanen i’r Frenhines Fictoria  
 

Mae’n amlwg fod Pryce Jones yn dda iawn am fynnu cyhoeddusrwydd i’w fusnes dilladu archebu-trwy’r-post a dyfai’n gyflym dros ben. Yn 1862 derbyniodd archeb gan Florence Nightingale, ac ar unwaith, defnyddiodd ei henw ar ei ddeunydd hysbysebu!
Yn yr 1870au manteisiodd ar y llinellau rheilffyrdd newydd oedd wedi cyrraedd Y Drenewydd, a dechreuodd fynd â samplau o Wlanen Gymreig enwog Y Drenewydd i arddangosfeydd yn Ewrop a’r America, a hyd yn oed i Awstralia’n ddiweddarach.

 

Warws Cymreig Brenhinol,
Y Drenewydd

O daflen gwerthiant a anfonwyd at gwsmeriaid yn 1879

Royal Welsh Warehouse
ByErbyn 1873 ef oedd perchennog y safle lle dysgodd ei grefft gyntaf fel prentis, ond fel y tyfai’r archebion roedd angen adeilad llawer mwy arno. Yr ateb oedd prynu darn o dir yn agos at orsaf y rheilffordd er mwyn codi’i adeilad trawiadol newydd, sef y Royal Welsh Warehouse, a welir yma.
Roedd agoriad swyddogol yr adeilad hwn yn Hydref 1879 yn achlysur mawr iawn i’r dref, ac roedd gwesteion hynod o bwysig yno gan gynnwys Ardalydd Londonderry, a’r Arglwydd Sudeley.

Cwsmeriaid Brenhinol y
Royal Welsh Warehouse yn 1878
Part of sales leaflet
 

Cymrodd Pryce Jones bob mantais bosibl o’r archebion niferus a derbyniodd ei fusnes gan y teulu brenhinol a’r uchelwyr. Dangosir pennawd y daflen werthu gafodd ei hanfon allan ganddo yn 1878 uchod, gyda’r Frenhines Fictoria a Thywysoges Cymru ar ben y rhestr!
Erbyn hyn roedd yn anfon archebion i bron bob ty brenhinol yn Ewrop, a rhestrai lawer ohonynt yn ei hysbysebion. Mae mwy am lwyddiannau’r arbennig Pryce Jones o’r Drenewydd ar y dudalen nesaf…

 

Cyflenwr byd-eang..

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Drenewydd