Y
Drenewydd
Warws
Cymreig Brenhinol
O’r Drenewydd i’r byd eangach | ||
Trosglwyddodd Pryce Jones ei fusnes
archebu-trwy’r-post i’r
Royal Welsh Warehouse yn Hydref 1879,
a chyn pen blwyddyn roedd ganddo oddeutu 100,000 o gwsmeriaid. |
rhan
o daflen Pryce Jones
|
Clogyn
ysgarlad "as supplied to Her Majesty the Queen" yn 1879
|
Fel arwydd o’i lwyddiant cafodd Pryce Jones ei wneud yn farchog gan y Frenhines
Fictoria yn 1887, ac ar ôl hynny cawsai
ei adnabod fel Syr Pryce Pryce-Jones. Ond erbyn 1895 nid oedd hyd yn oed y Royal Welsh Warehouse enfawr, newydd yn ddigon o faint, ac felly adeiladwyd adeilad mawr arall gyferbyn i’w ddefnyddio fel ffatri. Yn ddiweddarach adnabuwyd yr adeilad hwnnw fel Agriculture House, ac roedd pont uchel yn cysylltu’r ddau adeilad am nifer o flynyddoedd. Yn 1901 ychwanegodd ei swyddfa bost ei hun i’r Royal Welsh Warehouse er mwyn delio â’r nifer enfawr o barseli a anfonwyd i bob cwr o’r byd o’r Drenewydd. |
Parhaodd y cwmni i wneud yn dda tan
gyfnod Y Rhyfel Mawr 1914-18, ond
dioddefodd oherwydd y dirwasgiad ym masnach y byd yn y 1920au a’r 1930au.
Cymerwyd y busnes gan gwmni o Lerpwl yn 1938. Bu farw Pryce Jones yn 1920
yn 85 oed. |
|
||