Trefaldwyn a'r cylch
Trosedd a chosb
Ac ati...
Achos Elizabeth Grist  
  Daeth y Cwnstabl John Hughes o hyd i Elizabeth Grist yn Y Drenewydd. Gwelodd ei bod wedi bod yn aros yng ngwesty John Green a daeth o hyd i flwch yr oedd hi wedi ei adael yno yn cynnwys rhai o’r dillad a gafodd eu dwyn. Nid oedd hi ei hunan yno ac aeth y broses o chwilio amdani yn ei blaen.  

Ychydig ddyddiau wedi hyn, daeth Y Cwnstabl John Lloyd o hyd i Elizabeth yn Nolfor lle cafodd waith fel morwyn yn Y Garreg.
Roedd y dillad a gafodd eu dwyn gan PC Lloyd a gofynnodd iddi pwy oedd yn eu perchen. Cyffesodd Elizabeth eu bod yn perthyn i Mrs Ridge ac ildiodd eitemau eraill oedd wedi’u dwyn i’r heddlu.
Aethpwyd â hi i’r ddalfa a’i dwyn o flaen yr awdurdodau. Pan gafodd ei chwestiynu, dywedodd nad oedd ganddi ddim i’w ddweud.
Bu Elizabeth Grist yn y carchar dros y Nadolig a sefodd ei phrawf ar 4ydd Ionawr 1849. Mae’r cofnodion hyn yn dangos er mai dim ond 17 mlwydd oed yr oedd hi, y bu’n y llys o’r blaen o dan yr enw Elizabeth Davies, hefyd am ddwyn.

Fe blediodd Elizabeth yn euog y tro hwn ac mae’r darn a welwch chi nesaf o gofnodion y llys yn dweud wrthym beth oedd y ddedfryd.  
 
 

'Ordered that the prisoner Elizabeth Davies otherwise Elizabeth Grist be transported beyond the seas to such place as Her Majesty with the advice of her Privy Council shall direct for the term of seven years.'
Mae hyn yn golygu bod Elizabeth wedi cael ei hanfon i’r trefedigaethau cosb yn Awstralia ac nid oedd yn debygol byth o ddod yn ôl.
Nid oedd wedi gwerthu’r dillad a gafodd eu dwyn a phan adawodd gartref Mr a Mrs Ridge, roedd arnynt gyflog iddi felly nid oedd wedi mynd â’r dillad er mwyn yr arian, yn ôl pob tebyg. Ni chawn wybod byth pam y cafodd ei themptio i ddwyn ond fe dalodd yn drwm am hyn.

Yn ôl i ddewislen Trosedd Trefaldwyn