Trefaldwyn a'r cylch
Trosedd a chosb
Achos Elizabeth Grist  
  Ar y 4ydd Ionawr 1849, cafodd y Llys Chwarterol ei gynnal yn hen neuadd y dref yn Y Trallwng. Roedd hen gofnodion y llys yn cynnwys rhestr wedi’i phrintio o’r holl garcharorion oedd yn disgwyl am eu prawf y diwrnod hwnnw.
Mae’r darn a welwch chi nesaf yn dangos un carcharor, oedd ddim ond yn 17 mlwydd oed...
 
 
  Elizabeth Grist oedd y carcharor, oedd yn gweithio fel morwyn i Mr a Mrs Ridge o Gaer Howell, Yr Ystog. Mae’r rhestr hon wedi nodi gyda "neither" i ddangos nad oedd hi’n gallu darllen nac ysgrifennu. Roedd yr hyn a ddigwyddodd yn y llys y diwrnod hwnnw i newid bywyd Elizabeth am byth. Ymysg cofnodion y llys y mae datganiadau pawb oedd yn gysylltiedig. O’r rhain, gallwn gael syniad o’r hyn ddigwyddodd.
Yr eitemau a gafodd eu
dwyn oedd -

1 siôl wlanen gwerth 5 swllt, 1 siôl arall gwerth 5 swllt 1 ffedog gwerth 6 cheiniog, 1 hances boced gwerth 6 cheiniog 1 cadach gwddf gwerth 6 cheiniog, 1 gwisg gwerth 1 swllt 1 pais laes gwerth 1 swllt, 1 coler gwerth 2 geiniog a 2 het gwerth 1 swllt.

Dywedodd meistres Elizabeth, Martha Ridge bod Elizabeth wedi bod yn gweithio iddi am oddeutu 5 wythnos. Yn gynnar un bore pan yr oedd hi dal yn dywyll, cododd Mrs Ridge a gweld bod Elizabeth wedi diflannu ynghyd â sawl eitem o ddillad.
Dywedodd hyn wrth yr heddlu, a aeth ati i ddod o hyd i Elizabeth.

  Cyfanswm gwerth yr eitemau a gafodd eu dwyn oedd 14 swllt a 8 ceiniog. [tua 73c yn arian heddiw].
Nid yw hwn yn swnio’n llawer ond roedd hyn yn fwy na’r hyn roedd rhai pobl yn ei ennill mewn wythnos ar ddechrau oes Fictoria.
 

Ceisiwch weld beth ddigwyddodd nesaf...