Trefaldwyn
a'r cylch
Trosedd a chosb
Ac
ati...
|
Carchar
y Sir |
|
|
Mae cofnodion
y carchar sirol yn Nhrefaldwyn yn rhestru pobl oedd yn gweithio yno yn 1849.
Gallwch chi weld rhestr o’r swyddogion
a’u cyflogau am chwarter o’r flwyddyn yma... |
|
|
"Salaries
of Officers
John Lloyd, Governor, Quarter salary due at these
Sessions...£32 10s [£32.50]
Richard Jones, 1st Turnkey, nine weeks and 5 days
salary...£7 5s 10d [£7.29]
Arthur Blakeway, 2nd turnkey, Quarter salary due at
these Sessions...£9 2s [£39.20]
Messrs. Towns and Wilding, surgeons, the like....£7
10s [£7.50]
R.D. Harrison, clerk to visiting Justices, the like....£2
2s [£2.20] |
|
|
Dim
ond cyflog o naw wythnos a phum niwrnod a gafodd y ceidwad cyntaf, Richard
Jones gan ei fod wedi colli ei swydd
! Mae cofnodion y carchar yn sôn am y digwyddiadau a arweiniodd at hyn.
Mae’n debyg bod Richard Jones wedi bod yn bwlio
carcharor i’w berswadio
i honni bod llywodraethwr y carchar wedi ei guro. Byddai’r llywodraethwr
wedi colli ei swydd ac roedd Richard Jones ei hunan yn gobeithio bod yn
Llywodraethwr.
Yn ffodus, fe ddywedodd y carcharor y cyfan wrth y Llywodraethwr ac wedi
edrych ar y mater yn iawn, collodd y ceidwad ei swydd.
Cafodd porth newydd urddasol ei adeiladu yn 1866
(ar y dde) ac mae’n
debyg y cafodd adain newydd ei hychwanegu.
|
|
|
Serch
hynny, cafodd y carchar ei gau yn 1878
ar ôl llai na 50 mlynedd o wasanaeth. Ar ddiwedd oes Fictoria, cafodd carcharorion
eu hanfon allan o’r sir. |
|