Trefaldwyn
a'r cylch
Trosedd a chosb
|
Cyn cyfnod Fictoria, roedd gan Sir
Drefaldwyn garchar sirol bychan ar lethrau Rhiw
y Castell, y tu ôl i Neuadd y dref (gweler
y llun).
Fe waethygodd cyflwr yr adeilad hwn ac nid oedd yn ddigon mawr i ddal
yr holl garcharorion. Cafodd cynlluniau ar gyfer Carchar newydd y Sir
eu llunio gan Thomas Penson o Groesoswallt
a gynlluniodd y Bont Hir newydd yn Y Drenewydd.
|
|
|
|
Cafodd yr adeilad newydd hwn ei adeiladu
ar gynllun siâp croes oedd yn gyffredin ar y pryd. Mae’r map yma yn dangos
y carchar ar ddechrau’r cyfnod. Mae’n seiliedig ar fap y degwm ac yn dangos
safle’r carchar y tu allan i furiau’r dref ar ochr ddwyreiniol Sir Drefaldwyn.
Cafodd y carcharorion cyntaf eu rhoi yn y carchar yn Rhagfyr 1832
er bod gwaith dal yn cael ei wneud arno y flwyddyn ganlynol.
Dyma oedd y carchar oedd yn cadw carcharorion o Sir Drefaldwyn yn ystod
y rhan fwyaf o gyfnod Fictoria.
Roedd bywyd yn y carchar i fod yn galed fel y byddai carcharorion eisiau
osgoi mynd yn ôl yno unwaith iddynt gael eu rhyddhau.
|
|
|
Yn bwysicach na hyn, dylai carcharorion
wneud llafur caled, megis torri creigiau am oriau di-baid neu blicio ocwm.
Fel y mwyafrif o garchardai, roedd gan Drefaldwyn felin
draed lle’r oedd rhaid i garcharorion
droi olwyn fawr gyda’u traed am oriau maith. Yn y mwyafrif o garchardai,
nid oedd y peiriant hwn yn gwneud unrhyw beth.
Cafodd ei gynllunio i roi rhywbeth caled a diflas i garcharorion i’w wneud.
|
|