Llanwrtyd
Mapiau Fictoriaidd
  Abergwesyn yn 1888  
 

Mae’r map isod yn ddarn o fap ar raddfa 6 modfedd = 1 filltir o’r flwyddyn 1903. Cymuned fach iawn yw pentref Abergwesyn o hyd, ac nid yw’n edrych yn wahanol iawn i’r pentref sydd i’w weld ar y map sy’n dyddio o’r 1940au. Er hynny, gallwn weld bod rhai newidiadau wedi digwydd yn y pentref ers y map a gynhyrchwyd yn 1833.

 
Archifdy Sir Powys
  Mae eglwys Sant Mihangel i’w gweld ar draws yr afon o weddillion eglwys ganoloesol Dewi Sant. Cafodd eglwys Sant Mihangel ei hailadeiladu yn 1871. Gerllaw y mae Capel Moria a adnewyddwyd yn 1867 gan yr Annibynwyr. Roedd gan y bobl leol felly ddewis o lefydd i addoli.  
  Roedd Ysgolfeistr yn Abergwesyn yn 1841, ond nid oes gwybodaeth ar gael am ei ysgol. Mae’r map uchod yn dangos yr ysgol newydd a adeiladwyd rhywbryd rhwng 1865 ac 1870. Yr Ystafell Haearn oedd yr enw ar yr ysgol, gan mai strwythur rhychog oedd. Roedd teulu Thomas, Llwynmadog a thirfeddianwyr eraill wedi talu am yr ysgol, ac ysgol eglwysig neu Genedlaethol oedd. (Am fwy o wybodaeth ar ysgolion yn yr ardal, cliciwch yma).  
  Cymharwch hwn gyda map o’r ardal yn 1833..  
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Llanwrtyd

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llanwrtyd