Llanwrtyd
Mapiau Fictoriaidd
Abergwesyn yn 1833 | ||
Mae’r map isod yn ddarn o fap mwy
a gynhyrchwyd gan dirfesurwyr yr Arolwg Ordnans
yn 1833, ac roedd y map ar werth mewn siopau llyfrau. Mae’r map yn dangos fod y gymuned wedi ffynnu mewn man lle’r oedd dwy ffordd yn croesi. Roedd y ffordd o’r gogledd dwyrain ar hyd cwm Gwesyn yn arwain tua’r de wedyn ac yn cysylltu Abergwesyn gyda Beulah a Llanwrtyd, ac mae’r ffyrdd mwy yn arwain at lefydd pell.. |
MAPIAU’R DEGWM Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bawb bron dalu degwm i Eglwys Loegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm i fod yn dreth ar eich eiddo. Lluniwyd mapiau i ddangos pa eiddo oedd gan bawb |
Archifdy Sir Powys |
Ffordd serth fynyddig yw’r un sy’n dechrau ym mhen y map, yn dod o gyfeiriad Ceredigion. Mae’n cario ymlaen o Abergwesyn tua’r dwyrain dros lethrau Pen-rhiw-garreg-lwyd. Dyma’r ffordd fyddai’r porthmyn yn ei defnyddio i yrru eu da byw ar eu taith hir i farchnadoedd yn Lloegr. Ar ddechrau teyrnasiad Fictoria, roedd y rhan fwyaf o bobl yr ardal yn gweithio ar y tir mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Roeddynt yn ffermwyr, gweision fferm neu weision, bugeiliaid ac ati. Hefyd yn 1841 roedd teiliwr, gwehydd a dau saer yn gweithio yn y pentref. Y pryd hynny, John Williams oedd yn 80 oed oedd yng ngofal Tafarn y "Grouse". |
||
Cymharwch hwn gyda map o’r ardal yn 1888.. |