Llanwrtyd
Mapiau Fictoriaidd
| Llangamarch yn 1888 | ||
|
Mae’r llun isod yn seiliedig ar fap yr Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd yn 1888 ar raddfa 1 filltir = 25 modfedd. Er fod y pentref dal yn eithaf bach, gallwch weld ar unwaith bod newidiadau wedi digwydd yn ystod teyrnasiad Fictoria. |
|
|
![]() |
|
|
1. Mae’r rheilffordd wedi cyrraedd Llangamarch. (A dweud y gwir wedi mynd trwy ganol y dref). Roedd hyn yn galluogi pobl leol i ddatblygu’r ffynhonnau, fel y digwyddodd yn Llanwrtyd, Llanfair ym Muallt a Llandrindod. Roedd y ffynhonnau wedi ffynnu ac yn denu ymwelwyr ac yn darparu gwaith. |
||
2.
Er nad yw’r ffynhonnau ar y map yma, gallwch weld un o’r gwestai llwyddiannus
a ffynnodd wrth ddarparu llety i ymwelwyr oedd am brofi’r dyfroedd. Roedd
Gwesty’r Camarch, fel gwestai lleol
eraill, yn darparu nifer o fathau o adloniant
i’w ymwelwyr. Roedd ystafell gyngerdd, cwrt tennis, ystafelloedd darllen
ac ysmygu, ac roedd yn gyfleus i bysgota
ac ymweld â’r ffynhonnau mwnau. |
||
| Cymharwch hwn gyda map o’r ardal tua 1840.. | ||