Llanwrtyd
Mapiau Fictoriaidd
  Llangamarch tua 1840  
 

Mae’r map isod yn seiliedig ar y map degwm, ac yn rhoi darlun i ni o’r gymuned hon ym mlynyddoedd cynnar teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Cymuned fach iawn oedd, ond ehangodd o gwmpas yr eglwys blwyf yn hen blwyf Llangamarch lle’r oedd dwy afon yn uno (Afon Camarch ac Afon Irfon). Mae’r map yn dangos rhan Treflys yn y plwyf, ac felly nid yw’n dangos adeiladau oedd ar draws yr afon yr adeg honno tua’r De.

 

MAPIAU’R DEGWM
Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bawb bron dalu degwm i Eglwys Loegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm i fod yn dreth ar eich eiddo. Lluniwyd mapiau i ddangos pa eiddo oedd gan bawb
Llangamarch around 1840Archifdy Sir Powys
 

Yn 1841, roedd bron pawb yn yr ardal yn gweithio ar y tir mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Roedd y rhan fwyaf yn ffermwyr, gweision fferm neu weision. Hefyd roedd bugeiliaid a phorthmyn. Roedd 2 saer coed, 3 glöwr, 1 groser, 2 deiliwr, 2 gof a sadler hefyd.
Roedd cowper yn ogystal â’i brentis yn byw yn Nhymawr, ac roedd ysgolfeistr hefyd yn byw yno. John Davies oedd yn gofalu am dafarn y Llew Coch.

 
  Cymharwch hwn gyda map o’r ardal yn 1888..  
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Llanwrtyd

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llanwrtyd