Llanidloes
Bywyd ysgol
  Swyddog Presenoldeb yn cael ei daro  
 

Rhywbeth cyffredin iawn a wnaed gan athrawon ysgol oes Fictoria oedd chwipio plant oedd yn achosi trafferth, a gwneud hyn trwy ddefnyddio’r gansen neu’r wialen fedw. Anaml iawn fyddai rhieni’n cwyno am hyn, gan ei bod yn rhan o’r ffordd arferol o gadw trefn yn yr ysgol.
Nid oedd hyn yn golygu fod plant bob amser yn ymddwyn yn berffaith, serch hynny !

 
School diary entryPowys County Archives
 

Mae digon o enghreifftiau o ymddygiad gwael yn yr hen ddyddiaduron ysgol, ac o ganlyniad i un achos cafodd Swyddog Presenoldeb yr ysgol ei daro’n anymwybodol yn 1885 ! Victorian schoolboy
Mae’r darn yma o Ysgol Fwrdd Llangurig yn dweud:
"...On Tuesday I punished D.C.Bound and Walsham Rowbotham for throwing stones during playtime in the afternoon. It is only a very short time ago that John Rowlands hit the attendance officer on the head with a stone. He was so much stunned by the blow that for some time he was unconscious. This did not occur during school hours".

Gwaith y swyddog presenoldeb oedd gwneud yn siw^r fod pob un o’r plant yn mynd i’r ysgol, felly roedd yn dipyn o darged i’r rheini oedd yn taflu cerrig !
Mae enghraifft arall o ymddygiad gwael – a chosb lem – ar y dudalen nesaf...

Y gansen i William Blythe..

Nid y fi a’i tarodd. Aeth fy ngharreg i rywle arall.
 

Ewch i ddewislen ysgolion Llanidloes

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanidloes