Llanidloes
Bywyd ysgol
  Lleidr ifanc yn cael ei chwipio – yn y carchar!  
 

Mae’r ddau ddarn yma wedi dod o Lyfr Cofnod Ysgol Genedlaethol Llanidloes yn 1885. Maent yn dangos sut yr oedd plant oedd yn camymddwyn yn ystod oes Fictoria yn cael amser caled iawn gan yr awdurdodau !
Yn yr enghraifft yma, gwelir bod bachgen ifanc o’r enw William yn cael ei ddwyn ymaith o’r ysgol gan blismon, ei roi yn y carchar, ei chwipio, a’i ryddhau wythnos yn ddiweddarach !
Nid dyna ddiwedd ei broblemau, oherwydd nid oedd yr ysgol am ei gael yn ôl !

 
  Scgool diary entryArchifdy Sir Powys
  School diary entry
 

Mae’r darnau uchod yn darllen:
"June 3rd - Police Sergeant Lake visited the School and apprehended William Blythe for theft. June 11th - William Blythe presented himself at School today after being liberated from prison yesterday where he had been flogged with the birch. The Master refused to take him in".

Roedd chwipio plant gyda chansen neu wialen fedw yn rhywbeth eithaf cyffredin mewn ysgolion Fictoraidd, ond roedd eich cau yn y carchar gydag oedolion a’ch chwipio yno yn llawer iawn gwaeth i fachgen ifanc. Mae pethau wedi newid erbyn heddiw !
.

 
 

Ewch i ddewislen ysgolion Llanidloes

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanidloes