Llanidloes
Bywyd ysgol
  Rhy ddwfn i’r rhai bach  
Drawing by
Rob Davies

plentyn yn yr eiraRoedd pob ysgol mewn ardaloedd gwledig yn debygol o gael nifer fechan o blant yn cyrraedd am wersi mewn tywydd gwael. Roedd yn rhaid i lawer gerdded am filltiroedd o ffermydd a phentrefi, ym aml dros dir garw iawn.
Mae’r darn yma o ddyddiadur Adran y Babanod Ysgol Genedlaethol Llanidloes, ac mae’n dangos fod y plant ieuengaf yn arbennig yn cael problemau yn y dyddiadau cyn bysiau ysgol! Roedd hi’n flynyddoedd lawer wedi diwedd cyfnod Fictoria y byddai cludiant yn cael ei drefnu ar gyfer cludo pob plentyn i’r ysgol.

 
School diary entryArchifdy Sir Powys
 

Ysgrifennwyd hwn yn llyfr Cofnod yr ysgol yn 1886, pan oedd eira’n drwch oddi amgylch ym mis Mawrth :
"The attendance this week was very poor on account of the severe weather, the snow being too deep for the little ones, especially those coming some distance, to wade through it. The attendance on Monday and Tuesday morning was so small that school had to be closed".

Yn aml iawn ychydig iawn o wres fyddai yn yr ysgol pan fyddai’r plant oer a gwlyb yn cyrraedd, felly roeddynt mewn perygl o ddal anwydau gwael neu waeth os oeddynt yn ceisio mynd i’r ysgol mewn tywydd gwael.
Mae mwy am y problemau yr oedd llawer o blant yn eu hwynebu weth fynd i’r ysgol ar y dudalen nesaf…

Dros y bryniau i’r ysgol..

 
 

Ewch i ddewislen ysgolion Llanidloes

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanidloes