Llanidloes
      Bywyd ysgol  
| Dros y briniau i'r ysgol | ||
| Nid oedd yna unrhyw wasanaethau bysiau ysgol ar gyfer plant oedd yn mynd i’r ysgol yn ystod amser y Frenhines Fictoria ! Fe fyddai ychydig o’r plant lwcus yn gallu dal reid gan gerbyd o ryw fath oedd yn cael ei dynnu gan geffyl, ond cerdded oedd y rhan fwyaf yn gorfod ei wneud. Mewn ardaloedd gwledig roedd hyn yn golygu cerdded am filltiroedd dros draciau geirwon, mewn pob math o dywydd. | 
| Archifdy 
        Sir Powys |  | 
| Mae 
      hwn yn dod o gofnodion Ysgol Llangurig ar ddiwedd blynyddoedd Fictoria, 
      1900. Mae’n rhan o restr sy’n dangos pa mor aml yr oedd plant yn mynychu ysgol, gyda rhai nodiadau ar resymau dros absenoldeb. Mae’r rhifau mewn du ar y dde i’r enwau yn rhoi oed y plant. Mae’r golofn nesaf mewn coch yn dangos faint o weithiau y daethant i’r ysgol (allan o uchafswm o 42 !). Gallwch weld fod rhai o’r plant wedi gorfod cerdded pum milltir i gyrraedd ysgol ! | ||