Llanidloes
Bywyd ysgol
  Symud i ffwrdd oherwydd gwaith  
 

Mae Llyfrau Cofnod neu ddyddiaduron swyddogol ysgolion oedd yn cael eu cadw gan Ysgolion Fictoraidd (ac maent yn cael eu cadw hyd heddiw!) yn aml iawn yn dweud mwy wrthym na dim ond yr hyn oedd yn digwydd mewn ysgolion bryd hynny.
Ceir nifer o enghreifftiau sy’n cyfeirio at ddigwyddiadau y tu hwnt i’r ysgol, megis y sefyllfa o ran swyddi gyda chyflogwyr lleol. Mae darn yn nyddiadur Ysgol Genedlaethol Llanidloes, haf 1884 yn dweud "Some of the children leaving for South Wales owing to Stoppage of the Van Mines."
Roedd gweithfeydd y Fan yn waith plwm pwysig ger Llanidloes, y mwyaf ym Mhrydain ar un adeg. Roedd yn gwneud yn dda iawn yn yr 1860’au a’r 1870’au, ond bu’n rhaid iddo gau yn ddiweddarach.

 
  School diary entryArchifdy Sir Powys
 

Ysgrifennwyd y darn o’r dyddiadur a ddangosir yma y flwyddyn ganlynol, 1885, ac mae’n debyg iawn i’r un cynt. Mae’n darllen:
"Several children left last week owing to their families removing to South Wales to join the fathers who had gone there for work".

Yn ystod oes Fictoria nid oedd y llywodraeth yn rhoi unrhyw daliadau ar gyfer pobl oedd yn colli swyddi, felly pan gaeodd y gweithfeydd plwm lleol symudodd llawer o weithwyr a’u teuluoedd i dde Cymru er mwyn cael swyddi yn y pyllau glo.
Roedd newyddion gwell ynghylch swyddi lleol wyth mlynedd yn ddiweddarach, fel y gwelwch ar y dudalen nesaf…

Cynllun adeiladu cronfa ddwr fawr newydd yn 1894..

 
 

Ewch i ddewislen ysgolion Llanidloes

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanidloes