Llanidloes
Bywyd ysgol
Adeiladwyr y gronfa ddwr yn dod i’r dref | ||
Roedd y Llyfrau Cofnod neu ddyddiaduron
oedd yn cael eu cadw gan ysgolion Fictoraidd yn aml yn sôn am ddigwyddiadau
oedd yn effeithio ar y gymuned gyfan,
nid dim ond yr ysgol. Mae’r enghraifft yma yn sôn am newyddion gwell, pan ddaeth nifer fawr o swyddi i Gwm Elan ger Rhaeadr. Roedd hyn o ganlyniad i adeiladu cronfeydd dwr a llynnoedd mawr er mwyn darparu dwr glân i’w gludo dros 70 milltir i Firmingham. Dechreuodd y prosiect enfawr yma yn 1893 ac agorwyd y cronfeydd yn 1904. |
![]() |
Oherwydd y nifer fawr o weithwyr
oedd eu hangen i adeiladu’r cronfeydd, daeth teuluoedd
ychwanegol i fyw mewn nifer o drefi ac roedd eu plant yn mynd
i’r ysgolion lleol. Ysgrifennwyd am hyn yn Llyfr Cofnod Ysgol Genedlaethol
Llanidloes yn Ebrill, 1894 : Mae mwy am gronfeydd dwr Cwm Elan
ar adran Rhaeadr o’r wefan yma. |
||