Llanidloes
Bywyd ysgol
  Dim ysgrifennu heddiw – yr inc wedi rhewi !  
 

Mae plant ysgol heddiw wedi dod yn gyfarwydd â dosbarthiadau cynnes a chyfforddus pan maent yn mynd i’r ysgol.
Yn aml roedd hi’n wahanol iawn mewn dosbarthiadau oes Fictoria, yn fwy na thebyg dim ond un stôf fechan, myglyd iawn fyddai yn yr ysgol bryd hynny. Dim ond un pen o’r ystafell fyddai’n cael ei gwresogi, a hynny dim ond pe bai’r ysgol yn gallu cael digon o goed neu lo ! Weithiau byddai’r plant yn gorfod mynd allan i’r goedwig i gasglu coed ar gyfer y tân.
Mae digon o sôn mewn Llyfrau Cofnod am ysgolion oedd yn rhewi a’r perygl i iechyd plant oedd yn cyrraedd yn wlyb i ysgol oedd heb wres.

Child at desk
Llangurig 1881
School diary entryArchifdy Sir Powys
Llangurig 1895
School diary entryArchifdy Sir Powys
 

Mae’r darnau yma wedi dod o ddyddiaduron Ysgol Fwrdd Llangurig. Ysgrifennwyd yr un cyntaf yn Ionawr 1881, y llall yn Ebrill (yn y Gwanwyn !) 1895, ychydig iawn oedd wedi newid mewn 14 o flynyddoedd !
Mae mwy am y tywydd oer ar y dudalen nesaf…
"There has been no writing in copy books as all the ink was frozen.."
"No paperwork has been done for some weeks except by a very few scholars. The ink in the wells is frozen every night".

Roedd plant ysgol oes Fictoria fel arfer yn cael eu galw’n ‘scolars' ond ychydig iawn o’r gair a ddefnyddir heddiw.
Roedd ysgolion oedd â desgiau – ac nid oedd gan bod un ohonynt ddesgiau am nifer o flynyddoedd – yn aml iawn â photiau bach inc o’r enw "inkwells" ar ben y desgiau i ddal inc glas neu ddu ar gyfer peniau hen ffasiwn pan fyddech yn gorfod trochi’r pen yn yr inc. Nid oedd gan y Fictoriaid feiros !

Mwy o broblemau’r tywydd i blant..

 
 

Ewch i ddewislen ysgolion Llanidloes

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanidloes