Llanidloes
Trosedd a chosb
Rhywun yn dwyn o farchnad Llanidloes |
Geirfa
|
|
Yn Hydref 1844 roedd crydd o’r Drenewydd yn gwerthu ei nwyddau ym Marchnad Llanidloes. Ei enw oedd Richard Jones a gosododd ei stondin ger yr hen neuadd farchnad. Pan roedd yn brysur yn cynorthwyo rhywun cafodd pâr o esgidiau trymion eu dwyn o’r stondin. |
Crydd – rhywun sy’n gwneud esgidiau, trwsio esgidiau a’u gwerthu. | |
Ni welodd Mr Jones beth ddigwyddodd ond fe welodd Mary Davies oedd yn sefyll gerllaw y cyfan. Cafodd y lleidr ei ddal a’i roi yn nwylo’r heddlu a rhoddwyd datganiad gan Richard Jones a Mary Jones. Mae’r datganiadau yma ar gael o hyd, ac wrth eu darllen cawn weld beth yn union ddigwyddodd. Gallwch weld rhan o ddatganiad Mr Jones nesaf. Roedd yn gallu arwyddo’r datganiad ei hun. | ||
Mae’n darllen: |
||