Llanidloes
Trosedd a chosb
  Alltudiaeth y tu hwnt i’r moroedd
Geirfa
 

Yng nghanol rhai o hen gofnodion llychlyd llysoedd oes Fictora mae rhai sy’n adrodd stori dyn o Lanwnog aeth i drwbl difrifol iawn. Ei enw oedd Evan Owen ac roedd eisoes wedi’i gael yn euog o un drosedd cyn iddo ddod o flaen y llys unwaith eto. Yn y ddogfen a welwch chi nesaf mae ei enw ar y rhestr o’r rheini sydd yng Ngharchar y Sir yn Nhrefaldwyn yn aros i sefyll ei brawf yn Hydref 1844.

Alltudiaeth – symud pobl sydd wedi torri’r gyfraith i wlad arall bell fel cosb.
 
 
 
 

Mae’r cofnodion yn dangos mai labrwr 60 mlwydd oed oedd Evan Owen, ac roedd wedi’i gyhuddo o ddwyn tair gwydd oddi wrth dyn o’r enw John Price. Y golofn sydd â’r gair "neither" ynddi yw’r bwlch ar gyfer nodi’r wybodaeth sef oedd y carcharor yn gallu darllen neu ysgrifennu neu beidio. Doedd Evan Owen ddim yn gallu darllen nac ysgrifennu. Yn fwy na thebyg doedd erioed wedi mynd i’r ysgol, ac mae’n siwr a glywai yn y llys yn ddigon i’w ddrysu’n lan.

Mwy am achos Evan Owen..

 
 

Yn ôl i ddewislen Trosedd a Chosb Llanidloes

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanidloes