Llanidloes
Trosedd a chosb
Mwy am..
Dyfarniad Evan Owen  
 

Mae cofnodion y llys yn dweud wrthym beth ddigwyddodd i Evan Owen nesaf. Gan ei fod wedi ei gael yn euog o un drosedd o’r blaen roedd y gosb yn un llym.

 
 
 

Mae’r darn yn darllen:
"Ordered that the prisoner be transported beyond the seas to such parts as Her Majesty with the advice of her Privy Council shall direct for the term of seven years".

Mae’r iaith gyfreithiol yma yn golygu y byddai ymgynghorwyr y Frenhines yn penderfynu lle byddai’n mynd. Yn ystod y cyfnod yma roedd carcharorion yn cael eu hanfon i drefedigaethau cosb yn Awstralia lle roeddynt yn cael eu gorfodi i weithio yn y caeau wrth i’r gwarchodwyr eu gwylio. Yn fwy na thebyg bu farw Evan Owen allan yno. Pe bai dal yn fyw ar ddiwedd y saith mlynedd byddai wedi cael ei ollwng yn rhydd ond heb unrhyw ffordd o ddod yn ôl i Gymru.

Geirfa
Ymgynghorwyr – y bobl sy’n rhoi cyngor i’r Frenhines gydag achosion fel yr un yma. Carcharorion – rhai sydd wedi eu cael yn euog o droseddu.
Trefedigaethau cosb – mannau o fewn gwlad bell lle byddai carcharorion yn cael eu hanfon i gael eu cosbi.
 
 
 

Yn ôl i ddewislen Trosedd a Chosb Llanidloes

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanidloes