Llanidloes
Cludiant
  Gwasanaethau’r goets ar ddechrau teyrnasiad Fictoria  
 

Mae Llanidloes wedi’i lleoli ym mhen uchaf Afon Hafren, ac efallai y byddech yn meddwl ei bod yn dref anghysbell ar ddechrau cyfnod Fictoria cyn dyfodiad y rheilffyrdd. Serch hynny rydym yn gwybod o Gyfeirlyfr Pigot ar Ogledd Cymru, 1835 fod y goets fawr yn ymweld â’r ardal yn rheolaidd.

 
 

Roedd y Cyfeirlyfr yn debyg i’r 'Yellow Pages' sydd gennym ni heddiw ac mae’n gallu dweud llawer wrthyom am y gymuned ar ddechrau cyfnod Fictoria .

Roedd y coets yn teithio o Lanidloes i’r brifddinas yn Llundain ac i drefi Seisnig eraill pell fel Cheltenham a Chaerwrangon yn ogsytal â rhai agosach fel Yr Amwythig. Hefyd roedd yna gysylltiadau gyda phorthladd mawr Lerpwl. Yn ystod oes Fictoria, fe wnaeth llawer o bobl dosbarth gweithiol adael Cymru am America o Lerpwl, yn chwilio am fywyd gwell.
Sylwch, o’r holl goets gyda’u henwau crand, dim ond dau ohonynt oedd yn teithio yn y gaeaf. Y rhain oedd yr 'Union' a’r 'Express' oedd yn teithio i Aberystwyth a’r Amwythig. Byddai taith i Aberystwyth ar ben y goets yn daith hir ac anghyfforddus mewn tywydd garw. Mae’n siwr y cafwyd achlysuron pan yr oedd Llanidloes wedi’i chau i ffwrdd o’r byd y tu allan oherwydd y tywydd.

 
  Mwy am gludo nwyddau yn ardal Llanidloes…  
 

Yn ôl i ddewislen cludiant Llanidloes