Llanidloes
Cludiant
Mwy am..
Cludo nwyddau o amgylch yr ardal  
 

Yn ystod oes Fictoria, roedd y Post Brenhinol yn cludo llythyron o amgylch y sir a’u dosbarthu o ddrws i ddrws yn debyg iawn i heddiw, ond nid oeddynt yn cludo nwyddau.
goods cartsRoedd y goets (edrychwch ar y tudalennau cynt) yn aml iawn yn mynd â pharseli bychain am dâl ond roedd y rhan fwyaf o’r gwaith cludo nwyddau yn cael ei wneud gan gwmnïau lleol o gludwyr a fyddai’n codi tâl am fynd â nwyddau yn eu ceirt. Mae Cyfeirlyfr Pigot yn dweud wrthym pwy oedd y cludwyr lleol ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria.

 
  list of carriersMae yna restr o gwmnïau lleol fyddai’n cludo nwyddau ar hyd y ffyrdd tyrpeg yn eu ceirt a hynny am dâl.
Roedd y rhan fwyaf o’r trefi yn weddol agos, Birmingham a’r Amwythig oedd y ddwy dref arall oedd ychydig yn bellach i ffwrdd. Nid oedd yna unrhyw gysylltiadau ar yr adeg yma gyda Chaerdydd, Llundain neu unrhyw un o’r phorthladdoedd mwy o faint.
 
 

Yn ôl i ddewislen cludiant Llanidloes